Y Pethau
Bychain
lles natur cymru

Ysgolion

Gall Y Pethau Bychain ymweld â'r safle a chynllunio pecyn sy'n gweddu gofynion yr ysgol a'r disgyblion. Mae amryw o becynnau ar gael i ysgolion a cylchoedd meithrin:
• Sesiynau wythnosol neu mewn blociau i weddu gofynion penodol.
• Gweithdai hanner dydd neu diwrnod gyfan.

Ein bwriad yw creu sesiynau ac adnoddau hawdd a hwyliog sy’n denu’r dosbarth allan; i symud, creu a chwarae er mwyn gwella iechyd meddwl a chysylltedd natur. Bydd y sesiynau’n amrywio gan gynnwys meddwlgarwch, storïau ioga, ymarferion anadlu neu greu drwy ddefnyddio adnoddau naturiol.

Bydd pob gweithdy wedi eu llunio i gyd fynd â gofynion y Cwricwlwm gan gynnwys:
• Hybu unigolion iach, hyderus sydd yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi.
• Archwilio’r celfyddydau mynegiannol trwy eu gwaith creadigol eu hunain a gwaith eraill sy’n galluogi i ddysgwyr ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
• Wrth gefnogi dysgwyr i ddatblygu strategaethau sydd o gymorth iddyn nhw reoli eu hemosiynau, gall hyn yn ei dro gyfrannu tuag at iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol.
• Gall profi rhyfeddod y byd naturiol gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol a lles y dysgwyr.
• Trawsnewid neu chreu llecyn llesol mewn ystafell, chornel neu yn yr ardal allanol.