Y Pethau
Bychain
lles natur cymru

Cymuned

Bwriad YPB yn y gymuned yw creu awyrgylch croesawgar ac ymlaciedig gan gynnig gweithdai sy’n denu’r teulu allan; i symud, creu a chwarae er mwyn gwella iechyd meddwl a chysylltedd natur. Gall sesiynau fod mewn amryw o leoliadau gwahanol le all blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ddod ynghyd i gael cysur, panad, sgwrs ac i greu.
• Sesiynau neu weithdai i fabanod, plant cynradd, uwchradd neu i oedolion
• Sesiynau a phwyslais ar gelf a chreu, ioga a meddwlgarwch, chysylltedd natur neu hen ddathliadau a thraddodiadau Cymreig megis Calan Gaeaf Celtaidd

Mae YPB yn cydweithio gyda’r Cyngor ac asiantaethau amrywiol i gyflwyno gweithgareddau syml i hybu lles y teulu.