Y Pethau
Bychain
lles natur cymru

Ysgol Coedwig

Mae Y Pethau Bychain yn gymwys i arwain sesiynau Ysgol Goedwig i blant ac oedolion (Lefel 3) gyda’r yswiriant perthnasol a chymhwyster cymorth cyntaf. Mae ethos Ysgolion Coedwig yn seiliedig ar greu perthynas â natur, chwarae, meithrin sgiliau archwilio a darganfod, a chymryd risg gyda chefnogaeth. Mae Ysgol Goedwig yn cynnig profiadau ystyrlon ar gyfer effeithiau cadarnhaol positif gydol oes.Lles yw sylfaen yr ymarfer a thrwy gydnabod anghenion cymdeithasol, emosiynol a chorfforol y dysgwyr bydd Y Pethau Bychain yn darparu arweiniad holistig ac ysbrydoledig ym myd natur. Gall Y Pethau Bychain deithio i wahanol safleoedd i gynnig profiadau Ysgol Goedwig.