Y Pethau
Bychain
lles natur cymru

Croeso i Y Pethau Bychain


Cydweithio â natur i deilwra gweithdai ac adnoddau sy’n hybu iechyd a llesiant drwy’r celfyddydau mynegiannol ac addysgeg Ysgol Goedwig.

Mae gan Nia Jewell flynyddoedd o brofiad addysgu yn y sector uwchradd a chynradd. Mae hi wedi creu tair rhaglen deledu ar gyfer Cyw; Sblij a Sbloj (llythrennedd cynnar), Shwshaswyn (meddwlgarwch) ac Misho (ymdrîn â phryder). Mae Nia hefyd wedi ysgrifennu llyfr i blant, Shwshaswyn - Garddio a chreu adnoddau dysgu lles gydag Atebol sef Mewn Glôb.

Mae Nia Dooley wedi dysgu am flynyddoedd yn ganol Manceinion ac yna yn Cilgwri. Mae hi’n hwylusydd Ysgol Goedwig ac yn gymwysedig i addysgu yn yr awyr agored gan roi profiadau llesol, addysgol a diogel i ddysgwyr cynradd a thu hwnt! Mae ganddi gefndir Celf ac mae’r ddwy yn gymwysedig i addysgu ymwybyddiaeth ofalgar, ioga ac ymarferion anadlu

Stacks Image 23